Nod RedSTART Educate yw darparu addysg ariannol i drawsnewid cyfleoedd bywyd pobl ifanc ledled y wlad. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â sefydliadau ariannol mawr, busnesau lleol a thros 600 o wirfoddolwyr mewn pum lleoliad allweddol ar draws y DU. Trwy saith mlynedd o ysgol gynradd, rydym yn meithrin ac yn olrhain datblygiad disgyblion, yn rhedeg rhaglenni a darparu adnoddau ar gyfer athrawon a rhieni. Rydym yn addysgu plant yn gynyddol, gan adeiladu ar eu gwybodaeth o flynyddoedd blaenorol.
Dilynir ein holl weithdai a gweithgareddau yn yr ysgol gan her i’r teulu: cyfleoedd dysgu rhyngweithiol llawn hwyl i’w trafod a’u cwblhau gartref. Mae RedSTART yn rhoi mantais ariannol i blant mwyaf difreintiedig y DU ar eu dyfodol ariannol.
Rydym yn cynnal gweithdai gydag amrywiol grwpiau blwyddyn ysgol gynradd (o 4-11 oed) trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Rydym wedi sefydlu canolfan newydd yn Ne Cymru yn ddiweddar ac mae ysgolion cynradd eisoes wedi cofrestru.
Mae’r ddolen isod i gofrestru fel gwirfoddolwr gyda RedST
Tags: Addysg a hyfforddiant, Cymuned
Manylion cyswllt
Nia MorganE-bost: Nia.Morgan@Redstarteducate.org
Ffôn: 07909566109
Comments are closed.