Mae ein siopau manwerthu yn codi arian hanfodol sy’n ein galluogi i ddarparu gofal a chymorth i’r rhai sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar fywyd, a’u teuluoedd, ledled Caerdydd gyfan.
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i dyfu a chryfhau ein busnes manwerthu i gefnogi mwy o bobl… Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn agor siop newydd a warws rhoddion yn Rhodfa Colchester!
Y siop newydd gyffrous hon fydd ein siop fwyaf ac mae’n cynnig ystod lawn o nwyddau cartref, trydan, dillad a dodrefn ochr yn ochr â gofod cymunedol i’w rentu a warws rhoddion i gefnogi ein holl siopau manwerthu.
Er mwyn gwneud y siop hon yn llwyddiant mawr bydd angen byddin o wirfoddolwyr anhygoel ar ein Rheolwr Manwerthu gwych i brosesu stoc, ailgyflenwi’r siop a rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.
• Ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o dîm newydd sbon?
• Ydych chi’n awyddus i wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd neu ddefnyddio hen rai?
• Efallai yr hoffech helpu i gefnogi’ch cymuned leol drwy wirfoddoli ar gyfer achos gwerth chweil.
Beth bynnag yw eich rheswm dros wirfoddoli, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Bydd gennym amrywiaeth o shifftiau gwirfoddol ar gael ar ddiwrnod o’ch dewis felly rydym yn sicr y bydd rhywbeth addas i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw.
Dywedodd Paul, Gwirfoddolwr Manwerthu:
“Y peth gorau am wirfoddoli yma yw dod yn rhan o deulu’r Hosbis a gallu cyfrannu at elusen leol anhygoel”.
I ddechrau eich taith wirfoddoli gyda ni heddiw, cysylltwch â Thîm Gwirfoddoli Hosbis y Ddinas ar: 07538 522 099 neu e-bostiwch volunteer@cityhospice.org.uk
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o wirfoddoli na manwerthu. Bydd hyfforddiant llawn a rhoddir a threuliau teithio rhesymol ar gais.
Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed gennych!
Beth fyddaf i’n ei wneud?
• Didoli, stemio a phrisio stoc yn barod i’w werthu yn y siop
• Creu arddangosfeydd ffenestr hardd a chyffrous i ddenu cwsmeriaid a hyrwyddo gweithgareddau Hosbis y Ddinas
• Cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid tra’n gweithio yn y siop
• Annog ein cefnogwyr ffyddlon i ymuno â Rhodd Cymorth i wneud y mwyaf o’u rhoddion caredig
• Siarad yn gadarnhaol am waith Hosbis y Ddinas yn y gymuned
Pa fath o sgiliau a nodweddion sydd eu hangen arnaf?
• Yn dibynnu ar eich tasgau, bydd angen i chi allu trin bagiau o roddion
• Brwdfrydedd dros waith Hosbis y Ddinas a’r gefnogaeth a roddwn i deuluoedd a chleifion yn y gymuned ac yn yr hosbis.
Tags: Manwerthu, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Karen KitchCyfeiriad:
Hosbis y Ddinas, Tir Ysbyty'r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BF
E-bost: volunteer@cityhospice.org.uk
Ffôn: 02920 524150
Ffôn symudol: 07538522099
Gwefan: www.cityhospice.org.uk
Comments are closed.