Mae’r Siop Gyfnewid yn lle i bobl ddod â’u dillad diangen a’u cyfnewid am ddillad y gallan nhw eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i barhau â defnydd dillad yn hirach, sy’n well i’r blaned ac i gyllidebau pobl.
Diwrnod ac Amser: Dydd Sadwrn cyntaf y mis o 11am tan 2pm (angen gwirfoddolwyr 10.30 – 2.30)
Lleoliad: Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Ais, Caerdydd CF10 1FL
Person cyswllt: Gemma.Coleman2@caerdydd.gov.uk
Beth sydd angen i’r gwirfoddolwr ei wneud:
- Gosod a chlirio’r Siop Gyfnewid.
- Egluro sut mae’r Siop Gyfnewid yn gweithio. Efallai na fydd llawer o bobl wedi dod i Siop Gyfnewid o’r blaen felly bydd angen i wirfoddolwyr egluro beth all pobl gyfnewid eu heitemau ar eu cyfer a sut mae’n gweithio.
- Gwirio bod eitemau’n addas ac wedi’u labelu’n briodol.
Gofynion arbennig:
- Rhaid i chi fod 18 neu’n hŷn
- Gallu gwirfoddoli ar amserlen ragweladwy (mae ymrwymiad misol yn ddelfrydol ond mae’n bwysicach ein bod yn gallu cynllunio o amgylch pryd rydych ar gael)
- Byddwn yn gofyn am 2 eirda cyn i chi ddechrau gwirfoddoli gyda ni (eto, siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon)
- Croesewir pob iaith ond mae angen i’ch Saesneg llafar eich galluogi i esbonio’r Siop Gyfnewid i’r mynychwyr, ateb ymholiadau a cheisiadau ad hoc a chyfathrebu â staff yr hyb yn ôl yr angen.
- Ni allwn gefnogi pobl i adleoli ar gyfer y swydd wirfoddoli hon.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, yr hyfforddiant a ddarperir neu unrhyw anghenion hygyrchedd a allai fod gennych, cysylltwch â Gemma.Coleman2@caerdydd.gov.uk am sgwrs.
Manylion cyswllt
Gemma ColemanE-bost: gemma.coleman2@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07977750618
Comments are closed.