Gyrwyr Cleifion – Trelái a Llanrhymni
Mae Gyrwyr Cleifion yn cefnogi gyda chanolfan ddydd Hosbis y Ddinas drwy gludo cleifion i’w cartrefi ac oddi yno i’n hosbis yn yr Eglwys Newydd. Mae ein cleifion wedi’u lleoli ledled y ddinas ac yn aml mae angen cymorth arnynt gyda chludiant i ddod draw atom ar brynhawn dydd Llun ac Iau.
Drwy ddefnyddio eich car eich hun i gludo ein cleifion, byddwch yn eu galluogi i gymdeithasu â phobl eraill, derbyn therapïau cyflenwol, a chael rhywfaint o adloniant y mae mawr ei angen.
Mae ein grwpiau cleifion yn rhedeg ar ddydd Llun ac Iau rhwng 1:30pm a 3:30pm, gyda chleifion yn dod o bob rhan o’r ddinas. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarpar wirfoddolwyr sy’n byw yn ac o amgylch ardaloedd Trelái a Llanrhymni.
Mae rhai o’n gwirfoddolwyr wedi rhannu gyda ni pam y maent yn mwynhau bod yn yrrwr gwirfoddol cleifion:
Dywedodd Kevin wrthym, “Rwy’n teimlo bod gwirfoddoli i Hosbis y Ddinas yn brofiad mor werth chweil. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ein cleifion a gwrando ar eu straeon. Rwy’n gwirfoddoli oherwydd bod Hosbis y Ddinas wedi rhoi cymaint o ofal i’m gwraig ac rwyf am roi rhywbeth yn ôl fel y gall yr elusen barhau i gefnogi’r rhai sydd ei angen yn y gymuned leol.”
Dywed Derek “Mae gan yr Hosbis angen ac mae gen i gar ac mae’n hyfryd gwirfoddoli i Elusen mor wych”
Os oes gennych ddiddordeb i ddod yn Yrrwr Cleifion, e-bostiwch volunteer@cityhospice.org.uk
Sylwer, mae’r rôl hon yn gofyn am ddefnyddio’ch cerbyd eich hun a thystysgrif GDG gyfredol y gallwn ei chynnal ar eich rhan.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Samantha CurtisCyfeiriad:
Hosbis y Ddinas, Tir Ysbyty'r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BF
E-bost: volunteer@cityhospice.org.uk
Ffôn: 02920 524150
Ffôn symudol: 07968164454
Gwefan: ww.cityhospice.org.uk
Comments are closed.