07753268757
Mae pob diwrnod o’ch bywyd yn bwysig – o’r un cyntaf i’r un olaf. Pan fyddwch yn gwirfoddoli i Marie Curie, byddwch yn deall hynny’n well nag erioed. Rydym yn dîm brwd, ymroddedig ac amrywiol o dros 4,400 o staff a 6,500 o wirfoddolwyr sydd yma i bobl sy’n byw gydag unrhyw salwch angheuol, a’u teuluoedd. Rydym yn cynnig gofal, arweiniad a chefnogaeth arbenigol i’w helpu i gael y gorau o’r amser sydd ar ôl ganddynt.
Mae Marie Curie wedi ymrwymo i’w gwerthoedd, sy’n sail i’n gwaith. Rydym yn cymryd camau llym i sicrhau bod y bobl sy’n ymuno â’n sefydliad trwy gyflogaeth neu wirfoddoli yn addas ar gyfer eu rolau ac yn ymrwymedig i ddiogelu ein holl bobl rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys ein staff, ein gwirfoddolwyr a phawb sy’n defnyddio neu sy’n dod i gysylltiad â’n gwasanaethau. Rydym yn ymroddedig i greu lle diogel i weithio sy’n gefnogol ac yn werth chweil.
Mae Marie Curie wedi ymrwymo i fyd lle gall pawb ffynnu a chyflawni eu potensial. Rydym yn ymroddedig i hanfodion cyfiawnder cymdeithasol a manteision sefydliadol amrywiaeth, cynhwysiant a thegwch llawn yn y gweithle, ac rydym yn hyrwyddwr Stonewall. Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o ddiwylliannau amrywiol ac sydd â safbwyntiau a phrofiadau bywyd amrywiol.
Bydd eich rôl yn cynnwys rhai o’r tasgau canlynol, ymhlith eraill:
• Cynnal ymweliadau wythnosol â’r unigolyn/unigolion rydych yn ei gefnogi/eu cefnogi, fel y cytunwyd gyda’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Gallai hyn fod mewn amrywiaeth o leoliadau, e.e. cartref y teulu, cartref gofal neu yn y gymuned.
• Rhoi cefnogaeth a chwmnïaeth un i un.
Er enghraifft: bod yn barod i wrando a threulio amser yn cymryd rhan mewn sgwrsio, gweithgareddau neu hobïau bob dydd gyda’r unigolyn rydych yn ei gefnogi. Gyrru cleientiaid i ofal iechyd neu gymdeithasol a drefnwyd ymlaen llaw (e.e. i apwyntiadau meddygol) neu fynd ar deithiau byr allan. Helpu gyda thasgau bach, dyddiol, e.e. gwneud te neu ddefnyddio’r rhyngrwyd. Galluogi gofalwyr i gael seibiant byr. Efallai y byddwch yn cefnogi teulu neu ofalwyr eich cleient cyn neu yn ystod profedigaeth. Gall hyn gynnwys cynnig cefnogaeth emosiynol, cyfeirio at wasanaethau cefnogaeth lleol perthnasol neu ddod o hyd i wybodaeth yn ôl y gofyn.
(Amlinelliad yn unig yw hwn gan y bydd cefnogaeth yn amrywio yn ôl anghenion unigol. Nid yw cymdeithion gwirfoddol yn rhoi gofal nyrsio neu bersonol, nac yn cynnig cwnsela na chyngor)
• Rhoi gwybod i’ch rheolwr am unrhyw newidiadau i’r sefyllfa, neu unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol mewn cysylltiad â’r unigolyn rydych yn ei gefnogi a/neu ei deulu, naill ai’n bersonol neu dros y ffôn.
• Cyflwyno adroddiadau ymweliadau rheolaidd i’ch rheolwr a diweddaru systemau cyfrifiadurol perthnasol yn ôl yr angen
• Bod yn ddibynadwy ac yn ymrwymedig i dreulio amser gyda rhywun yn rheolaidd a chynnig cefnogaeth
• Mynychu sesiynau unigol gyda’ch Cydlynydd Gwirfoddolwyr, hyfforddiant a digwyddiadau grŵp yn ôl yr angen
• Cynrychioli gwasanaeth Cymdeithion Marie Curie yn gadarnhaol i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth
I gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl wirfoddol hon, cysylltwch â’r Ganolfan Gweithrediadau Gwirfoddoli yn volunteering@mariecurie.org.uk
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Manylion cyswllt
Scott Dent-DaviesCyfeiriad:
Hosbis Caerdydd a'r Fro Marie Curie, Bridgeman Road, Penarth CF64 3YR
E-bost: Scott.davies@mariecurie.org.uk
Ffôn: 02920426000
Ffôn symudol: 07753268757
Gwefan: https://www.mariecurie.org.uk/who/what-we-do/en
Comments are closed.