Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn ein siop newydd ym Mhenarth ac yn gobeithio y gallwch chi helpu.
Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio yn ein siopau. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn un tîm mawr, ond gydag amser i bawb. Gobeithiwn fod ein naws bersonol yn gwneud gwirfoddoli’n fwy arbennig.
Drwy ymuno â ni, bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan mewn uno Cymru yn erbyn canser ac yn helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i filoedd o bobl bob un dydd trwy ein helpu i godi arian tuag at ymchwil o’r radd flaenaf.
Mae yna bob math o bethau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud i gymryd rhan yn ein siopau boed yn gweithio yn y cefndir neu’n cysylltu â’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys:
Gweithio ar y tiliau
Rheoli stoc
Cyfathrebu â chwsmeriaid
Didoli a threfnu rhoddion
Masnacheiddio gweledol neu arddangosfeydd ffenestr (dymunol ond nid yn hanfodol)
Rhoddir hyfforddiant llawn, a’r prif fanylebau person i chi yw bod yn onest, yn agored, yn barod eich cymwynas ac i fod â synnwyr digrifwch!
Rhag
21
Comments are closed.