GWYBODAETH AM CHIDC
Ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) yn 2017 gyda’r nodau canlynol:
– Gwarchod treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol cymunedau Iddewig de Cymru a’r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gofnodion hanesyddol, arteffactau a hanesion llafar.
– Sicrhau bod y cofnodion hanesyddol, yr arteffactau a’r hanesion llafar hyn ar gael i aelodau’r cyhoedd, gan ddilyn safonau catalogio archifau ac amgueddfeydd cydnabyddedig.
– Hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth, a gwella gwybodaeth y cyhoedd am y dreftadaeth Iddewig yn ne Cymru drwy unrhyw ddull sydd ar gael.
Nod y prosiect yw darparu hyfforddiant mewn sgiliau sy’n seiliedig ar dreftadaeth, ynghyd â chyfle i gymhwyso’r sgiliau hyn mewn lleoliad ymarferol.
Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chofnodion hanesyddol Synagog Diwygiedig Caerdydd (e.e., llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, llythyrau, ffotograffau, etc.).
Bydd modd trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir yn ystod y prosiect hwn a gellir eu cymhwyso i sawl maes yn y sector treftadaeth.
Rôl wirfoddoli:
Fel rhan o’r rôl hon, bydd gwirfoddolwyr yn:
1. Asesu ac yn didoli’r cofnodion;
2. Rhestru’r cofnodion sydd i’w hadneuo gydag Archifau Morgannwg.
3. Digideiddio (sgan neu ffotograff) y cofnodion.
4. Labelu pob cofnod a’i bariad digidol.
5. Golygu’r delweddau digidol i’w cyhoeddi ar wefan Casgliad y Werin Cymru;
6. Catalogio cofnodion wedi’u digideiddio, gan ddefnyddio safonau Dublin Core, i’w cyhoeddi yn Casgliad y Werin Cymru;
Gofynion:
Hanfodol:
• Trefnus a dibynadwy gyda’r gallu i gyflawni tasg yn brydlon.
• Manwl gywirdeb.
• Gafael ragorol ar y Saesneg; gallu i ysgrifennu mewn modd clir a chryno.
• Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm
• Parodrwydd i ddysgu a gwella eich sgiliau.
Dymunol:
• Diddordeb mewn hanes a threftadaeth.
• Gwybodaeth am Casgliad y Werin Cymru.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael:
• Hyfforddiant Trin a Thrafod Deunydd Archifol;
• Hyfforddiant Rhestru Dogfennau Archifol i’w Hadneuo;
• Hyfforddiant Hawlfraint a GDPR;
• Hyfforddiant Digideiddio a Metaddata;
• Hyfforddiant defnyddio meddalwedd golygu delweddau (Gimp).
• Profiad ymarferol o gatalogio a rhestru cofnodion archifol;
• Achrediad mewn ‘Digideiddio deunyddiau ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau’, Lefel 2, Credyd 3, gan Agored Cymru (dewisol);
• Cyfle i wella eich CV a gwella eich cyflogadwyedd;
• Geirda gan CHIDC (yn amodol ar fodloni gofynion gwirfoddoli).
Gwybodaeth ychwanegol:
Lleoliad: Synagog Ddiwygiedig Caerdydd, Moira Terrace, Caerdydd, CF24 0EJ.
Bydd treuliau teithio’n cael eu had-dalu (cludiant cyhoeddus Caerdydd).
Dyddiau ac amseroedd gwirfoddoli: bob dydd Llun a dydd Iau, 09:00-13:00.
Yr isafswm o oriau gofynnol y bydd yn rhaid i wirfoddolwr eu cyfrannu bob wythnos: wyth.
Hyd: pum mis:
• Dyddiad dechrau: 6 Tachwedd 2023.
• Dyddiad Gorffen: 4 Ebrill 2024.
Pwysig:
Er mwyn sicrhau eu bod yn ennill sgiliau a phrofiad, rhaid i’r gwirfoddolwyr gadarnhau eu bod yn debygol o fod ar gael ar ddydd Llun a dydd Iau rhwng 6 Tachwedd 2023 a 4 Ebrill 2024.
Proses Recriwtio
I wneud cais, dylid anfon CV a llythyr eglurhaol at Reolwr Prosiect CHIDC klavdija.erzen@jhasw.org.uk.
Dyddiad Cau am Geisiadau:25 Hydref 2023.
Cynhelir cyfweliadau ar yr wythnos yn dechrau 30 Hydref 2023.
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Comments are closed.