Elusen fechan yw Pantri Trowbridge sy’n ceisio helpu i liniaru tlodi bwyd a thanwydd yn Trowbridge a rhannau eraill o ddwyrain Caerdydd.
Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal sesiwn pantri ar ddydd Gwener yng Nghanolfan Gymunedol Trowbridge, yn ogystal â gweithgareddau cymunedol eraill.
Gall gwirfoddolwyr ddewis o’r rhestr ganlynol.
I helpu i:
Stocio a pharatoi’r pantri.
Rhedeg y sesiynau pantri (gweini aelodau, gwneud lluniaeth, cyswllt cymdeithasol ac ati)
Cyflawni tasgau gweinyddol, cyhoeddusrwydd a TGCh (gartref).
Dod o hyd i fwyd a chodi arian.
Ymgysylltu â phobl leol mewn angen.
Oriau: shifftiau 3 awr. Dydd Iau 1.30pm tan 4.30pm, dydd Gwener 9am tan 12pm a 12pm tan 3pm.
Darperir hyfforddiant achrededig a gwisg. Ffefrir ymrwymiad 6 mis.
Tags: Yn y gymuned
Comments are closed.