Mae cyfle gwirfoddoli cyffrous ar gael yn Hosbis y Ddinas! Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Dydd Sul i helpu gyda’n gweithrediadau agor ar y penwythnos yn ein Siop Manwerthu ym Mhenarth.
Mae tîm manwerthu Hosbis y Ddinas yn chwarae rhan hanfodol wrth godi arian i gefnogi ein cleifion a’n teuluoedd. Mae gennym nifer o siopau elusen ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n cael eu cefnogi gan fyddin o wirfoddolwyr ymroddedig. Mae ein siopau yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau y maent yn rhan ohonynt. Nid yn unig y maent yn codi arian, maent hefyd yn hyrwyddo ein gwasanaethau a’n digwyddiadau i’w cwsmeriaid. Fel rhan o’n hymrwymiad manwerthu i godi arian, byddwn yn agor 7 diwrnod yr wythnos.
Dywedodd Paul, Arweinydd Tîm Gwirfoddoli Manwerthu:
“Y peth gorau am wirfoddoli yma yw dod yn rhan o deulu’r Hosbis a gallu cyfrannu at elusen leol anhygoel”.
Beth byddaf i’n ei wneud?
• Cyfrifoldeb deiliad allwedd i agor a chau’r siop, cyfrifoldebau trin arian parod a rheoli’r gwirfoddolwyr i sicrhau bod y siop yn rhedeg yn ddidrafferth.
• Didoli, stemio a phrisio stoc yn barod i’w werthu yn y siop
• Creu arddangosfeydd ffenestr hardd a chyffrous i ddenu cwsmeriaid a hyrwyddo gweithgareddau Hosbis y Ddinas
• Cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid tra’n gweithio yn y siop
• Annog ein cefnogwyr ffyddlon i ymuno â GiftAid i wneud y mwyaf o’u rhoddion caredig
• Siarad yn gadarnhaol am waith Hosbis y Ddinas yn y gymuned
• Hyrwyddo gweithgareddau codi arian eraill fel ein Loteri, ein digwyddiadau codi arian, a’n cyfleoedd gwirfoddoli
• Cadw at bolisïau a gweithdrefnau perthnasol, gan gynnwys ein Polisi Gwirfoddoli, ein Polisi Diogelu Data, a’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ymhlith eraill.
Pa fath o sgiliau a nodweddion sydd eu hangen arnaf?
• Yn dibynnu ar eich tasgau, bydd angen i chi allu trin bagiau o roddion
• Brwdfrydedd am waith Hosbis y Ddinas a’r gefnogaeth a roddwn i deuluoedd a chleifion yn y gymuned ac yn yr hosbis
Pam y dylwn i gymryd rhan?
• Cewch gyfle i gefnogi pobl leol mewn elusen leol
• Gallwch gwrdd â phobl newydd drwy ein digwyddiadau gwirfoddoli cymdeithasol
• Gallwch ennill sgiliau newydd ar gyfer eich CV wrth ddefnyddio eich sgiliau presennol
Am faint o amser mae angen i mi wirfoddoli?
• Diwrnod llawn ar ddydd Sul fydd 9.45am – 4.15pm i agor a chau’r siop. Bydd hyn yn cynnwys sortio’r til, cewch hyfforddiant llawn ar hyn, a bydd gennych
• Sgiliau arwain a byddai profiad blaenorol mewn amgylchedd manwerthu yn ddymunol.
• Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i gymryd rhan lle mae angen help
• Unigolyn gonest a dibynadwy sy’n gweithio’n galed ac sy’n mwynhau bod yn rhan o dîm
• Byddai profiad mewn maes manwerthu yn fonws, ond byddwn yn rhoi hyfforddiant llawn i chi
• Cefnogaeth wrth ddysgu’r rôl.
Tags: Manwerthu
Comments are closed.