Rydym yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu ac yn helpu i wella ansawdd bywyd person hŷn.
Gyda’r hydref a nosweithiau tywyllach yn agosáu, bydd llawer o bobl hŷn yn osgoi mynd allan a byddant yn aros ar eu pennau eu hunain gartref am gyfnodau hir, gyda dim ond y teledu’n gwmni. Mae cyfnod y Nadolig hefyd yn gyfnod anodd i’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac o ganlyniad rydym yn aml yn gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yr adeg hon o’r flwyddyn. Felly, mae Age Connects yn estyn allan i ddod o hyd i wirfoddolwyr newydd i helpu ein cleientiaid hŷn i gadw mewn cysylltiad â’r byd y tu allan y gaeaf hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad. Pe gallech sbario awr yr wythnos i gefnogi person hŷn a dod â rhywfaint o lawenydd i’w bywydau yn ystod y nosweithiau tywyll a’r diwrnodau byrrach, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. Yr unig bethau sydd eu hangen arnoch yw sgiliau cyfathrebu da, bod yn wrandäwr da a mwynhau cael sgwrs. Mae angen i wirfoddolwyr fod yn 18+ oed a gwneud ymrwymiad am o leiaf 6 mis. |
Tags: Pobl hŷn
Comments are closed.