Rhaglen genedlaethol sy’n cael ei chynnal mewn ysgolion nad ydynt yn rhai prif ffrwd yn Llundain, Manceinion a Chymru yw Assemble. Wedi’i dylunio ar gyfer y nifer gynyddol o bobl ifanc anabl a niwrowahanol sy’n teimlo’n ynysig ac nad oes ganddynt yr hyder i gael mynediad at fannau cymunedol, mae rhaglen Assemble yn dod â phobl ifanc anabl (16-25 oed) at ei gilydd gyda gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn gweithdai creadigol a theithiau.
Mae’r rhaglen greadigol hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddal gan gynnwys hyder a chyfathrebu a datblygu carfan gydlynol o gyfranogwyr a gwirfoddolwyr a all fod yn eiriolwyr dros newid yn eu cymunedau. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal o fis Medi 2023, ac rydym yn chwilio am gwirfoddolwyr i ymuno ag Assemble. Os oes gennych chi ddiddordeb, llenwch y ffurflen isod.
Gwirfoddolwyr – Y rôl Dod yn rhan o raglen genedlaethol a fydd yn cynnig cyfleoedd creadigol i bobl ifanc anabl a niwrowahanol ledled y DU. Bydd y rôl hon yn cynnwys hyfforddiant ar ddiogelu ac ymarfer cynhwysol ac mae’n gyfle i ddatblygu eich ymarfer creadigol chi. Mae’r rhaglen hon yn dod â phobl ifanc ynghyd o ysgolion nad ydynt yn rhai prif ffrwd mewn gweithdai creadigol, sy’n cael eu goruchwylio gan hwyluswyr profiadol Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal ym Manceinion, Llundain a Chymru, ac mae’n gyfle cyffrous i unrhyw un sydd eisiau ehangu ei ymarfer creadigol a chreu cyfleoedd i bobl ifanc.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc (18-30 oed) sydd â diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd cynhwysol neu leoliad ysgol. Nid yw profiad o weithio mewn lleoliad cynhwysol yn hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant. Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n credu y dylai’r celfyddydau fod yn hygyrch i bawb ac sy’n ymroddedig i ddileu rhwystrau i bobl ifanc. Rydym hefyd yn awyddus i gynnwys y rhai a allai fod wedi wynebu rhwystrau eu hunain, sydd â phrofiad bywyd o anabledd neu niwroamrywiaeth, neu sydd o gymunedau eraill sydd wedi’u hymyleiddio yn hanesyddol.
Y sgiliau gofynnol: · Cyfathrebu da · Amynedd · Brwdfrydedd · Empathi · Hyblygrwydd · Prydlondeb · Profiad neu ddiddordeb mewn arfer drama
Byddwch yn derbyn: · Hyfforddiant mewn ymarfer cynhwysol a diogelu. · Profiad ymarferol o weithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion nad ydynt yn rhai prif ffrwd. · Y cyfle i ddatblygu eich sgiliau hwyluso eich hun ac arwain ymarferion. · Profiad o gefnogi rhaglen greadigol genedlaethol. · Hyfforddiant i gefnogi pobl ifanc anabl i deithio yn ôl ac ymlaen i ddigwyddiadau. · Profiad o fynychu gweithgareddau gyda phobl ifanc anabl a niwrowahanol, eirioli ar eu rhan, a’u grymuso i fod yn eiriolwyr eu hunain. · Mynediad am ddim i ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol fel rhan o’r rhaglen. · Profiad gwaith a datblygiad proffesiynol gwerthfawr. · Gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. · Telir treuliau Cliciwch yma i wneud cais nawr: https://form.jotform.com/232064515631348 Am ragor o wybodaeth, neu i gael y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â’r tîm isod: Llundain a Chymru – Esther Myers – Esther.Myers@nyt.org.uk Manceinion – Miriam Wild –Miriam.Wild@nyt.org.uk Cymru: Yng Nghymru, mae rhaglen Assemble yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Naomi McKenna Lawson – Cynhyrchydd Cyfranogiad a Dysgu CCIC – Hope Dowsett – hopedowsett@nyaw.org.uk esther.myers@nyt.org.uk |
Tags: Eiriolaeth, Plant a theuluoedd
Manylion cyswllt
Naomi McKenna Lawson Esther MyersE-bost: naomimckennalawson@nyaw.org.uk
Ffôn: 02922 807420 (Naomi McKenna Lawson)
Gwefan: https://www.nyaw.org.uk/ https://www.nyt.org.uk/
Comments are closed.