Disgrifiad o’r rôl wirfoddol
Cenhadaeth: Big Issue Group (BIG) Ein cenhadaeth yw chwalu tlodi trwy greu cyfleoedd, trwy hunangymorth, masnachu cymdeithasol ac atebion busnes. Lansiwyd y cylchgrawn Big Issue ym 1991 mewn ymateb i’r nifer cynyddol o bobl oedd yn cysgu allan ar strydoedd Llundain, drwy gynnig cyfle i bobl ennill incwm cyfreithlon trwy werthu cylchgrawn i’r cyhoedd. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae ein gwerthwyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn wynebu’r llu o broblemau sy’n gysylltiedig â thlodi ac anghydraddoldeb. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n frwd dros ein diben cymdeithasol ac sy’n dymuno rhannu eu sgiliau a’u profiad i gefnogi ein swyddfeydd rheng flaen a helpu i chwalu tlodi. Prif gyfrifoldebau: · Cyflawni dyletswyddau gwirfoddol yn effeithlon gyda ffocws sy’n dda i werthwyr. · Dangos ymrwymiad i amcanion cymdeithasol BIG. · Glynu wrth yr holl bolisïau a gweithdrefnau gwirfoddolwyr. · Cynnig cymorth ychwanegol i’r timau rheng flaen. Tasgau Allweddol: Cynnig cymorth gweinyddol i dimau Rheng Flaen BIG drwy: · Sicrhau bod y swyddfa’n gyfeillgar ac yn groesawgar i bob gwerthwr. · Trin trafodion arian parod a cherdyn gyda chywirdeb ac effeithlonrwydd. · Cadw cofnod cywir o werthiannau, lleiniau, cynilion gwerthwyr a thabardau. · Gweithio gyda staff i ymgysylltu â phobl sy’n cardota, gan hyrwyddo’r cyfle i ddod yn werthwr. · Ymateb i anghenion amrywiol gwerthwyr trwy gyfeirio at aelodau staff perthnasol, gan weithredu gyda disgresiwn wrth ddelio ag achosion sensitif neu broblemau gwerthwr. · Cefnogi staff i gyfeirio a gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau cymorth priodol. · Cefnogi staff i hyrwyddo cynhwysiant ariannol a digidol i werthwyr. · Cyflawni dyletswyddau gweinyddol. · Cefnogi staff gyda phrosiectau parhaus, pob un wedi’i anelu at hyrwyddo cenhadaeth BIG. · Cefnogi ein gwerthwyr ar eu llain trwy fod yn gadarnhaol, calonogol a darparu cylchgronau os oes angen. Rhinweddau allweddol: Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd: · Yn gyfeillgar a chroesawgar. · Yn dangos empathi tuag at ein gwerthwyr a’n darpar werthwyr. · Yn parchu’r angen am gyfrinachedd a disgresiwn. · Yn gweithio’n dda fel tîm. · Wedi ymrwymo i genhadaeth BIG. · Yn hyblyg ac yn barod i addasu tasgau yn dibynnu ar y diwrnod. · Â sgiliau rheoli amser a phroffesiynoldeb. · Â dealltwriaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Yr hyn y byddwch yn ei ennill: · Byddwch yn elwa o sesiynau sefydlu gyda staff cefnogol a fydd yn eich hyfforddi yng ngweithgareddau beunyddiol swyddfa’r Big Issue. · Byddwn yn cynnig hyfforddiant perthnasol i chi a allai gynnwys diogelu, ffiniau proffesiynol, ymwybyddiaeth iechyd meddwl, ymwybyddiaeth o gyffuriau ac alcohol a llawer mwy. · Byddwch yn datblygu sgiliau newydd o ran cyfathrebu, ac yn ennill mwy o wybodaeth am ddigartrefedd a’r materion sy’n ymwneud â thlodi. · Byddwch yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i BIG drwy gefnogi ein gwerthwyr. · Byddwch yn cwrdd â phobl newydd yn eich cymuned ac yn dod yn rhan o dîm cyfeillgar.
|
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Simon ChilcottCyfeiriad:
THE BIG ISSUE
Tŷ Hastings
Plas Fitzalan
Caerdydd
CF24 0BL
E-bost: volunteering@bigissue.com
Ffôn: 029 2025 5670
Ffôn symudol: 07956 489827
Gwefan: https://www.bigissue.com/
Comments are closed.