Mae Tŷ Hafan yn elusen flaenllaw a phoblogaidd sy’n darparu gofal a chymorth sy’n newid bywydau i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghymru.
Rydym yn hafan ddiogel a chariadus pan fydd plentyn yn agos at ddiwedd ei oes, gan roi cysur a gofal arbenigol yn oriau tywyllaf teulu a thu hwnt.
Mae’r cyfle hwn yn cynnig amrywiaeth o brofiadau o helpu gyda stoc, gwasanaethu cwsmeriaid a gweithgareddau cyffredinol eraill. Mae’r arian a godir yn ein siopau yn mynd yn uniongyrchol tuag at gefnogi’r teulu cyfan.
|
Nid oes angen unrhyw brofiad manwerthu gan fod hyfforddiant a chymorth llawn yn cael ei ddarparu. Rhinweddau sy’n bwysicach yw gonestrwydd, dibynadwyedd ac ymrwymiad.
Tags: Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Laura TerryCyfeiriad:
Ty Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX
E-bost: Laura.terry@tyhafan.org
Ffôn: 02920532308
Gwefan: www.tyhafan.org
Comments are closed.