Mae Cerebral Palsy Cymru yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol i deuluoedd yng Nghymru gyda phlant sydd â pharlys yr ymennydd. Mae ein tîm arbenigol o ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda’i gilydd i helpu pob plentyn. Mae ein gwasanaeth cymorth i deuluoedd yn cynnig clust i wrando, cyngor a chefnogaeth. Rydym yn gweithio o’n canolfan blant yn Llanisien, Caerdydd ond hefyd yn darparu sesiynau therapi allan yn y gymuned, ledled Cymru.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n tîm cyfeillgar a phroffesiynol ar y Dderbynfa, yn y ganolfan blant yng Nghaerdydd.
Byddant yn: · Croesawu ymwelwyr · Gwneud diodydd poeth · Cynnig gwasanaeth desg derbynfa · Ffrancio post
Amserlen hyblyg – o leiaf un bore neu brynhawn yr wythnos (dydd Mawrth i ddydd Gwener, 8:30am – 5pm)
Mae’r rôl hon yn addas i berson cyfeillgar sydd â sgiliau cyfathrebu da, sy’n drefnus ac yn ddibynadwy.
Nid oes angen profiad blaenorol, oherwydd cynigir hyfforddiant llawn a bydd cefnogaeth barhaus ar gael. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu data a diogelu.
Sut i wneud cais:
Llenwch y ffurflen ar-lein fer (dolen isod) a bydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Gofynnir i chi ddarparu manylion dau eirda, a bydd angen gwiriad GDG sylfaenol ar gyfer y rôl hon. Byddwn yn talu costau ac yn prosesu unrhyw wiriadau cefndir sydd eu hangen.
|
https://bit.ly/VolunteerWithCPC
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Joanna Di SommaE-bost: joannad@cerebralpalsycymru.org
Ffôn: 02920522600
Gwefan: https://www.cerebralpalsycymru.org
Comments are closed.