Mae AbilityNet yn elusen yn y DU sydd â chyrhaeddiad byd-eang – ein gweledigaeth ni yw byd digidol sy’n hygyrch i bawb.
Rydyn ni wedi bod yn helpu pobl hŷn a phobl anabl o unrhyw oedran gyda’u technoleg ers 25 mlynedd.
Ffordd wych o gefnogi AbilityNet yw ymuno â’n rhwydwaith o 300+ o wirfoddolwyr ar draws y DU. Mae llawer o bobl hŷn a phobl anabl yn cael anawsterau gyda’u technoleg, ac yn methu dod o hyd i’r gefnogaeth maen nhw ei angen. Mae ein gwirfoddolwyr anhygoel yn darparu cymorth technoleg un-i-un o bell a thrwy ymweliadau cartref.
Mae ein gwirfoddolwyr: • yn datrys problemau technegol. • yn cynnig cyngor diduedd ar dechnoleg. • yn gosod technoleg newydd a chaledwedd a meddalwedd. • yn dangos i bobl sut i ddefnyddio eu technoleg gartref e.e. siopa ar-lein, anfon a derbyn e-byst a Skype gyda ffrindiau a theulu. • yn gwneud addasiadau i gefnogi anghenion technoleg benodol person anabl. |
Tags: Computers and Technology
Manylion cyswllt
AbilityNetCyfeiriad:
Tŷ Acre
11/15 William Road
Llundain
NW1 3ER
E-bost: volunteers@abilitynet.org.uk
Ffôn: 08000487642
Gwefan: https://abilitynet.org.uk/free-tech-support-and-info
Comments are closed.