Mae FoodCycle yn rhedeg bob wythnos yn coginio ac yn gweini prydau 3 chwrs blasus, am ddim i’r gymuned leol i UNRHYW UN ddod draw i fwynhau. Rydyn ni’n cael pobl o bob cefndir yn dod i fwynhau pryd o fwyd am ddim, yn enwedig y rhai a allai fod yn ei chael hi’n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd neu’r rhai a allai fod yn unig ac sydd angen cwmni. Mae croeso i bawb. Mae gennym gyfleoedd yn ein timau coginio a gweini, naill ai’n paratoi a choginio ein prydau bob wythnos neu’n eu gweini i’n gwesteion a bod yn wyneb cyfeillgar i sgwrsio â nhw. Mae gennym hefyd rolau arweinyddion ar gael i’r rhai sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth. Does dim angen sgiliau, bydd ein Harweinwyr Prosiect yn dangos beth i’w wneud, a byddwch yn cael yr holl offer sydd ei angen arnoch, ond mae brwdfrydedd a pharodrwydd i gymryd rhan yn hanfodol!
Trelái – wrth y Dusty Forge, CF5 5BZ, bob dydd Llun 4.30-8pm Os hoffech wirfoddoli gallwch gofrestru yma: https://volunteer.foodcycle.org.uk/volunteer-sign-up |
Tags: Bwyd, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Alex HatherlyCyfeiriad:
Prif Swyddfa Foodcycle
2.16, The Food Exchange
New Covent Garden Market
Llundain, SW8 5EL
E-bost: alexh@foodcycle.org.uk
Ffôn: 020 7729 2775
Ffôn symudol: 07377 866335
Gwefan: www.foodcycle.org.uk
Comments are closed.