Mae Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol yn elusen lles sy’n cael ei harwain gan aelodau, sy’n bodoli i sicrhau bod holl aelodau cymuned yr Awyrlu yn cael eu cefnogi, pan maen nhw ei angen. Mae rôl y gweithiwr achos wrth wraidd yr amcan elusennol hwn a bydd gwirfoddolwyr sy’n ymgymryd â’r rôl hon yn ein helpu i gyflwyno’r gefnogaeth hon i gymuned yr Awyrlu.
Diben y rôl yw cefnogi a gwrando ar unigolyn ac asesu ei anghenion – gall hyn gynnwys unrhyw beth o’i helpu i gwblhau ffurflen, gwneud cais am arian ar gyfer ystafell wlyb neu nwyddau gwyn newydd. Efallai y bydd angen i weithwyr achos gasglu gwybodaeth gymhleth hefyd a gofyn cwestiynau ynghylch cyllid a chyflyrau iechyd. Byddai gofyn i chi ddarparu gwybodaeth glir a manwl gywir ar y pynciau hyn. Nid yw cefndir yn yr Awyrlu neu’r lluoedd yn hanfodol, ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Disgrifiad sgiliau allweddol Amynedd ac Empathi Gallu gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl Gwrandäwr da Y gallu i gynnal ffiniau Dibynadwyedd Sgiliau TG da Cyfrinachedd Sut cewch chi fudd o hyn Dyma gyfle i chwarae rhan allweddol wrth helpu Cymdeithas yr Awyrlu i ddarparu cefnogaeth werthfawr i aelodau o gymuned yr Awyrlu Brenhinol a’u teuluoedd. Byddwch yn cael cefnogaeth barhaus a ddarperir gan y Tîm Gwirfoddoli a Gwaith Achos. Ar ôl cwblhau’r cwrs hyfforddi, byddwch yn ennill cymhwyster Gwybodaeth a Chyngor Lefel 2 wedi’i achredu drwy’r Grŵp Cymwysterau ac Asesu AIM. Mae hyfforddiant pellach/gloywi hefyd ar gael. Gofynion Rhaid bod dros 18 oed Ffurflen gais wedi ei chwblhau. Geirdaon Gwiriad GDG (neu gyfwerth) Cyfweliad Cwrs hyfforddi ar-lein 2 ddiwrnod dan arweiniad tiwtor |
Tags: Eiriolaeth, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Craig AndersonCyfeiriad:
Atlas House 41 Wembley Road
Caerlŷr LE3 1UT
E-bost: volunteers@rafa.org.uk
Ffôn: 08000182361
Comments are closed.