Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn elusen adfywio cymunedol. Mae’n ymwneud â phobl yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu cymuned ac i wella eu bywydau eu hunain, a bywydau ei gilydd.
Mae tîm Ieuenctid Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn cynnal sesiynau Clwb Ieuenctid wythnosol yng Nghanolfan Treftadaeth Gymunedol CAER ar Heol yr Eglwys, Caerau, CF5 5LQ. Cynhelir sesiynau stryd ac allgymorth wythnosol ar draws Caerau. Mae’r tîm yn cynnwys 4 gweithiwr ieuenctid cyflogedig ac weithiau myfyrwyr gwaith ieuenctid ychwanegol ar leoliad ynghyd â gwirfoddolwyr. Cynhelir sesiynau cynllunio, briffio ac ôl-drafodaeth rheolaidd y gofynnir i staff a gwirfoddolwyr eu mynychu.
Desired Skills Profiad o waith ieuenctid a/neu weithio gyda phlant a phobl ifanc. Gweithio mewn tîm a chefnogi cydweithwyr. Sgiliau cyfathrebu da. Amynedd a phositifrwydd, weithiau mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen. Hyblygrwydd a chreadigrwydd.
DBS / Specific training required? Mae gwiriad GDG yn ofynnol. Mae briffio diogelu yn ofynnol. Mae hyfforddiant diogelu yn ddymunol. Mae cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar gael.
Cyfrifoldebau gwirfoddolwyr:
Datblygu perthynas gefnogol gyda phobl ifanc sy’n mynychu clybiau Ieuenctid Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a thrwy allgymorth ar y stryd. Cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, cyflwyno, ac adolygu sesiynau gwaith ieuenctid. Sicrhau bod gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn yn y Clwb Ieuenctid. Dilyn polisïau diogelu Gweithredu yng Nghaerau a Threlái bob amser. Unrhyw faterion diogelu i’w hadrodd i Danielle a Hannah (Rheolwr IEUENCTID Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) Bod ar gael i gefnogi Pobl Ifanc. Cymryd cofrestr. Cefnogi’r tîm Ieuenctid Gweithredu yng Nghaerau a Threlái wrth gyflwyno gweithgareddau gwaith ieuenctid pan ofynnir i chi wneud hynny. Hyrwyddo gwaith Gweithredu yng Nghaerau a Threlái gyda phobl ifanc a’u rhieni / gwarcheidwaid / teuluoedd.
|
Tags: Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Helen BullCyfeiriad:
Canolfan Treftadaeth CAER, Heol yr Eglwys
Caerau CF5 5LQ
E-bost: Volunteering@aceplace.org
Ffôn: 029 2000 3132
Ffôn symudol: 07736 958051
Gwefan: www.aceplace.org
Comments are closed.