Proffil y sefydliad:
Ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) yn 2017 gyda’r nodau canlynol:
- Gwarchod treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol cymunedau Iddewig de Cymru a’r cyffiniau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) cofnodion hanesyddol, arteffactau a hanesion llafar.
- Sicrhau bod y cofnodion hanesyddol, yr arteffactau a’r hanesion llafar hyn ar gael i aelodau’r cyhoedd, gan ddilyn safonau catalogio cydnabyddedig archifau ac amgueddfeydd.
- Hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth, a gwella gwybodaeth y cyhoedd ynghylch y dreftadaeth Iddewig yn ne Cymru trwy unrhyw fodd sydd ar gael.
Amlinelliad o’r prosiect:
Nod y prosiect yw darparu hyfforddiant mewn sgiliau sy’n seiliedig ar dreftadaeth, ynghyd â chyfle i gymhwyso’r sgiliau hyn mewn lleoliad ymarferol.
Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chofnodion hanesyddol Synagog Diwygiedig Caerdydd (e.e., llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, llythyrau a ffotograffau).
Bydd modd trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir yn ystod y prosiect hwn a’u cymhwyso i sawl maes yn y sector treftadaeth.
Rôl wirfoddoli:
Mae’r rôl hon yn un o bedair yr ydym yn eu cynnig. Y rolau eraill yw:
- Dosbarthu a Digideiddio – asesu, didoli a sganio’r deunydd.
- Catalogio – ychwanegu metaddata at y delweddau digidol.
- Rhestru ar gyfer Adnau – rhestru’r deunydd cyn iddo gael ei adneuo gydag Archifau Morgannwg.
Mae’r rolau hyn yn ymwneud â llif gwaith cadw’r cofnodion. Bydd gwirfoddolwyr yn gallu cymryd rhan mewn un neu sawl rôl, gan ddibynnu ar eu diddordebau, eu disgwyliadau a’r amser maen nhw ar gael.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant treftadaeth penodol mewn Trin a Thrafod Deunydd Archifol, Hawlfraint, Digideiddio a Metaddata, a Rhestru Dogfennau Archifol i’w Hadneuo, a byddant yn cymhwyso eu gwybodaeth mewn cyd-destun ymarferol trwy weithio gyda chofnodion Synagog Diwygiedig Caerdydd.
Tasg:
Fel rhan o’r rôl Creu Cynnwys Digidol, bydd y gwirfoddolwyr yn golygu’r delweddau digidol er mwyn eu cyhoeddi ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
Sgiliau gofynnol:
Hanfodol:
- Trefnus a dibynadwy gyda’r gallu i gyflawni tasg yn brydlon.
- Manwl gywirdeb.
- Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm
- Parodrwydd i ddysgu a gwella eich sgiliau.
Dymunol:
- Diddordeb mewn hanes a threftadaeth.
- Diddordeb mewn creu allbynnau digidol.
Yr hyn y byddwch yn ei ennill:
- Profiad o ddefnyddio meddalwedd golygu delweddau (Gimp).
- Hyfforddiant mewn Hawlfraint.i
- Hyfforddiant Digideiddio a Metaddata;
- Achrediad mewn ‘Digideiddio deunyddiau ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau’, Lefel 2, Credyd 3, gan Agored Cymru (dewisol);
- Cyfle i wella eich CV a gwella eich cyflogadwyedd;
- Geirda gan CHIDC (ar ôl cyflawni’r dasg).
Gwybodaeth ychwanegol:
Lleoliad: gweithio hybrid – o bell (o gartref) neu yn Synagog Diwygiedig Caerdydd (swyddfa dros dro CHIDC).
Bydd treuliau teithio’n cael eu had-dalu (cludiant cyhoeddus Caerdydd). Dyddiad dechrau: 01 Tachwedd 2022.
Mae hyfforddiant mewn Hawlfraint a Digideiddio a Metaddata yn ymwneud yn uniongyrchol â’r rôl a hysbysebir. Fodd bynnag, bydd modd i’r gwirfoddolwyr fanteisio ar sesiwn hyfforddi arall a drefnir fel rhan o’r prosiect hwn (Trin Deunydd Archifol a Rhestru Dogfennau Archifol i’w Cadw), os oes diddordeb gennych.
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
Klavdija ErzenE-bost: klavdija.erzen@jhasw.org.uk
Ffôn: +447972113952
Gwefan: https://www.jhasw.com/
Comments are closed.