Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i ymuno â’r Bwrdd Monitro Annibynnol (IMB) mewn 5 carchar ledled Cymru (Carchar Caerdydd, Parc, Abertawe, Brynbuga/Prescoed, Berwyn, ac Eastwood Park (Swydd Gaerloyw)). Mae’r IMB yn helpu i sicrhau bod safonau priodol o ofal a gwedduster yn cael eu cynnal. Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad arbennig ar ymgeiswyr gan y byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant a chefnogaeth angenrheidiol. Mae angen i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn byw o fewn tua 25-35 milltir i’r carchar. Mae angen i chi fod yn frwdfrydig, meddwl agored, meddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol a’r gallu i arfer barn gadarn a gwrthrychol. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc, pobl o oedran gweithio, a phobl ag anableddau, gan nad oes gan y grwpiau hyn gynrychiolaeth ddigonol ar ein Byrddau presennol.Mae hon yn rôl ddi-dâl, wirfoddol, ond byddwn yn talu eich costau teithio ac mewn rhai amgylchiadau, rhywfaint o golled enillion a chostau gofal plant/gofalwr.Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal gan ddefnyddio Zoom. Yr ymrwymiad amser yw tua 2 i 3 ymweliad y mis.Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Hydref 2022. Cyfeirnod yr ymgyrch, i’w ddyfynnu ar gais, yw 1282/Clwstwr Cymru/2022.Ewch i wefan IMB am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: https://www.imb.org.uk/join-now/current-vacancies/
|
Tags: Eiriolaeth
Manylion cyswllt
Jennifer TurnerE-bost: imbrecruitment@justice.gov.uk
Gwefan: https://www.imb.org.uk/join-now/current-vacancies/
Comments are closed.