Dewch i fod yn Gennad Gwirfoddol Sy’n Deall Dementia
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio i wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Dementia. Rydym angen eich cymorth i gefnogi siopau, busnesau, a sefydliadau lleol i: • Addunedu eu bod am ddod i Ddeall Dementia • Gwneud newidiadau i fod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw â dementia • Ennill cydnabyddiaeth swyddogol gan y Gymdeithas Alzheimer’s
Mae’r rôl wirfoddoli yn hyblyg a byddai’n addas i unrhyw un sy’n barod i gysylltu â’r gymuned ac yn angerddol dros wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Dementia. Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei gynnig drwy roi o’u hamser. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, cewch deimlad o berthyn hefyd ac fe gewch hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth briodol. DF Ambassador Volunteer Poster Welsh I wneud cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Chloe Gifford – Cydlynydd Gwirfoddolwyr Sy’n Deall Dementia 07855 980 955
|
Tags: Henoed, Iechyd a lles
Manylion cyswllt
Chloe GiffordE-bost: Chloe.gifford2@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07855980955
Gwefan: www.dementiafriendlycardiff.co.uk
Comments are closed.