Yr RSPB yw elusen gadwraeth fwyaf Ewrop. Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd yw prif brosiect ymgysylltu â’r chyhoedd RSPB Cymru a gynhelir mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd a Buglife. Mae’r project eisoes wedi ymgysylltu â thros 25,000 o blant a’u teuluoedd ar draws Caerdydd â bywyd gwyllt; gan eu hannog i gysylltu â’r natur ar garreg eu drws a chymryd camau gweithredu i’w gefnogi.
Fel Arweinydd Sesiwn Ysgol i Wirfoddolwyr byddwch yn: · Arwain y gwaith o gyflwyno ein sesiynau addysg awyr agored sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg (os yn bosibl). · Helpu dosbarthiadau i ddarganfod a dysgu am y natur ar dir eu hysgol a chymryd camau i’w gwella ar gyfer bywyd gwyllt. · Annog y plant i ryngweithio’n barchus â bywyd gwyllt.
Bydd Arweinwyr Sesiynau Ysgol yn cael eu set eu hunain o offer i’w galluogi i gyflwyno sesiynau’n annibynnol.
Sgiliau hanfodol: · Brwdfrydig am ddysgu yn yr awyr agored. · Siaradwr cyhoeddus hyderus yn y Gymraeg neu’r Saesneg. · Agwedd gadarnhaol a chynhwysol. · Yn gyfforddus yn rhyngweithio â phobl ifanc o bob oed a gallu. · Yn ddyfeisgar, yn hyblyg ac yn awyddus i ddysgu. · Yn drefnus ac yn hunanysgogol. · Â diddordeb mewn bywyd gwyllt neu faterion amgylcheddol (nid oes angen i chi fod yn arbenigwr). · Yn hapus wrth dreulio llawer o amser y tu allan ymhob tywydd. · Wedi ymrwymo i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant · O leiaf 18 oed · Ar gael i wneud hyfforddiant diogelu ar-lein ar 23 Ebrill
|
Tags: Plant a theuluoedd, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Ceri WatersCyfeiriad:
Mind Cymru, Castlebridge 4, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AB
E-bost: gnahcardiff@rspb.org.uk
Gwefan: https://www.caerdyddgwyllt.org/
Comments are closed.