Yn Hosbis y Ddinas, mae ein tîm yn gofalu am gleifion ledled y ddinas, yn rheoli eu symptomau ac yn cynnig cymorth hanfodol. Mae hyn yn golygu y gall pob person yn ein gofal fyw ei fywyd i’r eithaf cyhyd ag y bo modd.
Rydym yn ceisio cynyddu nifer ein gyrwyr cleifion gwirfoddol sy’n ein cefnogi drwy gludo cleifion i’w cartrefi ac oddi yno i’n hosbis yn yr Eglwys Newydd.
Mae ein cleifion wedi’u lleoli ledled y ddinas ac yn aml mae angen cymorth arnynt gyda chludiant i ddod draw atom ar brynhawn dydd Llun.
Drwy ddefnyddio eich car eich hun i gludo ein cleifion, byddwch yn eu galluogi i gymdeithasu â phobl eraill, derbyn therapïau cyflenwol, a chael rhywfaint o adloniant y mae mawr ei angen.
Mae ein grwpiau cleifion yn rhedeg ar ddydd Llun rhwng 1:30pm a 3:30pm, gyda chleifion yn dod o bob rhan o’r ddinas. Rydym yn gobeithio ymestyn ein gwasanaethau Canolfan ddydd i ddiwrnod ychwanegol felly os na allwch wirfoddoli ar ddydd Llun, cysylltwch â ni o hyd. |
Tags: gyrru
Manylion cyswllt
Samantha CurtisCyfeiriad:
Hosbis y Ddinas, Tir Ysbyty'r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, CF14 7BF
E-bost: volunteer@cityhospice.org.uk
Ffôn: 02920 524150
Ffôn symudol: 07968164454
Gwefan: www.cityhospice.org.uk
Comments are closed.