Mae cenhedlaeth fwy egnïol o oedolion hŷn wedi arwain at lefel uwch o symudedd ac anghenion teithio, ond canfu ymchwil bod diffyg gwybodaeth neu gymorth ar gael i’r rhai nad ydynt bellach yn gallu gyrru. Mae rhoi’r gorau i yrru yn brofiad negyddol i raddau helaeth i bobl hŷn, a nodweddir gan y teimlad o golled. Canolbwyntia PhD Dr Amy Murray ar y pwnc hwn a sut mae methu â gyrru nid yn unig yn effeithio ar y person hŷn dan sylw ond hefyd y rheiny sy’n dod yn gymorth anffurfiol i’r bobl sydd methu gyrru.
Bydd yr ymgyrch hwn yn
- Codi ymwybyddiaeth o’r heriau y maent yn eu hwynebu wrth roi’r gorau i yrru.
- helpu aelodau rhwydwaith cymorth anffurfiol pobl hŷn sy’n parhau i yrru, neu’r rhai sydd wedi rhoi’r gorau iddi.
- Cefnogi cynghorau a gwasanaethau gwirfoddol ar draws Cymru, drwy amlygu’r hyn sydd ei angen ar bobl hŷn a’r rhai o’u cwmpas, drwy gydol y broses o roi’r gorau i yrru.
Rydym yn targedu:
- Cynghorau a sefydliadau gwirfoddol ar draws Cymru i ddarganfod pa wasanaethau cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd
- Y cyhoedd i ganfod pa wasanaethau y maent yn meddwl y dylid eu darparu.
Sut fedrwch helpu:
- Rhannu ein hymgyrch ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ar draws eich cylchlythyrau a rhwydweithiau.
- Cwblhau ein harolwg https://forms.gle/rCDBLYDa2M9tLHSJ8 i’n helpu ni i ddarganfod beth rydych chi eisoes yn ei gynnig neu yr hoffech ei gynnig.
- Rhannwch ein harolwg gyda phobl yn eich cymuned https://forms.gle/Wf73wmj7Pc9cCbHFA fel y gallwn ddarganfod pa gefnogaeth y byddai pobl yn ei hoffi.
I ddarganfod mwy am yr astudiaeth hon a dilyn ei chynnydd, ewch i:
www.cadr.cymru/en/drivers-campaign.htm
Tags: Pobl hŷn
Comments are closed.