Mae prosiect newydd cyffrous angen eich cymorth i gefnogi pobl hŷn (50+) a gofalwyr yn eich cymuned.
Partneriaeth yw Prosiect HOPE rhwng; Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Wales ar draws Cymru gyfan.
Bydd HOPE yn galluogi pobl hŷn a gofalwyr i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, cymryd rhan yn eu cymunedau, deall eu hawliau fel person hŷn, cyrchu gwybodaeth i wneud dewisiadau gwybodus ac, ar ddiwedd y dydd, cael eu lleisiau wedi’u clywed.
Bydd HOPE yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer o bobl hŷn nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn gwybod sut i ddelio â’u pryderon neu nad oes ganddyn nhw’r hyder i godi eu llais am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw go iawn. Bydd y prosiect hwn yn helpu i daflu goleuni ar eu hanghenion a’u dyheadau fel y gallant fyw bywyd mwy boddhaus ac urddasol yn ddiweddarach yn eu hoes.
Mae HOPE yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr mewn cymunedau ledled Cymru i ddarparu cymorth eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn a gofalwyr lleol fel y gallant helpu i lunio’r penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar eu bywydau ac osgoi mynd i sefyllfa o argyfwng.
Bydd gwirfoddolwyr yn darparu’r gefnogaeth ar y ffôn neu drwy alwad fideo, pan fydd ar gael, oherwydd y sefyllfa Covid-19 bresennol. Mae Age Cymru eisiau sicrhau diogelwch ei holl staff a gwirfoddolwyr ac mae’n dilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I ddysgu mwy am HOPE a sut y gallwch gael eich hyfforddi i ddod yn Eiriolwr Gwirfoddol a chefnogi pobl yn eich cymuned, e-bostiwch:
|
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu, Eiriolaeth
Manylion cyswllt
Bryony DarkeE-bost: bryony.darke@agecymru.org.uk
Ffôn: 07943186780
Gwefan: Age Cymru ¦ HOPE (ageuk.org.uk)
Comments are closed.