Straeon Gwirfoddoli
Eich amser chi yw un o’r rhoddion mwyaf gwych y gallwch ei roi. Mae’r amser y mae gwirfoddolwyr wedi’i roi ledled Caerdydd wedi cael effaith fawr ar fywydau unigolion.
“Mae gwirfoddoli wedi newid fy mywyd mewn ffordd dda. Nid yw dioddef gydag iechyd meddwl yn hawdd ac ers gwirfoddoli rwyf wedi dod yn fwy hyderus ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi a’r holl aelodau o staff am y croeso.” Lilly
“Mae gweld wynebau’n gwenu pan fo’r bobl rwyf wedi’u helpu yn defnyddio Skype am y tro cyntaf i sgwrsio gyda pherthnasau tramor a defnyddio mapiau i edrych ar strydoedd ar-lein i weld yn union lle mae eu perthnasau’n byw yn foddhaus. Er nad yw’r Credydau Amser rwyf yn eu cael am bob awr rwy’n gwirfoddoli i’w gwrthod ychwaith!” Dave
I rannu eich stori a dathlu gwirfoddoli yng Nghaerdydd cysylltwch â GwirfoddoliCaerdydd@caerdydd.gov.uk