Mae FareShare yn gwneud defnydd o fwyd da a fuasai’n cael ei wastraffu fel arall ac yn ei ddanfon at elusennau er budd pobl mewn angen a’r blaned.
Mae angen Cynorthwyydd Warws arnom ni i drechu newyn a rhoi’r gorau i wastraffu bwyd
Ymunwch gyda ni i’n helpu ni i drechu newyn a rhoi’r gorau i wastraffu bwyd. Byddwch yn manteisio ar brofiad gwaith gwerthfawr wrth gyflawni tasgau amrywiol gan wneud gwir wahaniaeth i’ch cymuned. Mae angen gwirfoddolwyr 16+ ar FareShare Cymru i helpu yn ei warws gyda thasgau rheoli ansawdd ac asesu, trefnu a chofnodi bwyd wedi ei gyfrannu yn y storfa yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd. Bydd hyn yn helpu inni ofalu ein bod ni ond yn cynnig bwyd iach o safon i’n Haelodau Bwyd Cymunedol. Cyfrifoldebau: Fel rhan o dîm, trefnu’r bwyd dros ben pan fydd yn cyrraedd y storfa. Bydd angen ichi wirio ansawdd y bwyd, y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a ‘gorau cyn’, categoreiddio, cofnodi a chadw cyfrif o’r bwyd ar gael i’w ddanfon; Cynorthwyo cydlynwyr prosiect i ofalu caiff y gwaith ei gwblhau’n rhwydd a di-drafferth. Fel rhan o’r gwaith, bydd disgwyl ichi fod yn gyfrifol am iechyd, diogelwch a hylendid bwyd yn ystod eich oriau gweithio ynghyd â gofalu bod y mannau trefnu a chadw yn lân a thaclus.
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa, Iechyd a lles, Yn y gymuned, Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
Manylion cyswllt
Phil PinderCyfeiriad:
Uned S5,
Parc Busnes y Brifddinas,
Caerdydd
CF3 2PU
E-bost: phil@fareshare.cymru
Ffôn: 02920362111
Gwefan: www.fareshare.cymru
Comments are closed.